Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) i rym yn y DU ar 30 Tachwedd 2000, ac mae’n cael ei weithredu fesul cam dros gyfnod. Mae’n rhoi i’r cyhoedd hawl gyffredinol am fynediad i bob math o wybodaeth a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, mae’n gosod eithriadau i’r hawl i fynediad hon, ac mae’n rhoi nifer o rwymedigaethau ar yr awdurdodau hyn. Mae’r llywodraeth wedi ein dynodi’n awdurdod cyhoeddus at y dibenion hyn.

Mae Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol, sy’n gorfodi’r DdRhG. Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am gymeradwyo cynlluniau cyhoeddi. Cymeradwywyd ein Cynllun gan y Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae ar gael i’r cyhoedd ers 29 Chwefror 2004. O fis Ionawr 2005 ymlaen rydym wedi bod yn ateb i geisiadau unigol am wybodaeth, naill ai trwy ddatgelu peth neu’r cyfan o’r wybodaeth y ceisir amdani, neu trwy roi rhesymau pam na chaiff y cais ei gyflawni, ar sail yr eithriadau a osodir yn y DdRhG.

Mae data personol, sy’n cael eu cynnwys yn y Ddeddf Diogelu Data, yn eithriedig o dan y DdRhG, er bod y DdRhG yn diwygio’r Ddeddf Diogelu Data. Prif effaith y diwygiadau hyn yw y bydd y gofyniadau Diogelu Data yn berthnasol i’r holl wybodaeth bersonol rydym yn ei dal, o 1 Ionawr ymlaen. Ceir manylion ar sut i geisio am ddata personol gennym, a’r costau o’i wneud, yn Nosbarth 4 o’r Cynllun hwn.

Darpariaethau’r Cynllun Cyhoeddi

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn inni gyhoeddi a chynnal ‘cynllun cyhoeddi’. Mae’n rhaid i’r Cynllun gosod

  • y mathau o wybodaeth byddwn yn eu cyhoeddi ('dosbarthiadau gwybodaeth’);
  • sut y caiff yr wybodaeth ei chyhoeddi; ac
  • a fyddwn yn codi tâl neu beidio am ddarparu’r wybodaeth.

Mae nifer o ffyrdd y gellwch gael gafael ar wybodaeth o dan ein Cynllun, os nad oes modd ichi ei chael yn uniongyrchol trwy’r Rhyngrwyd (gw. Rhan 2, o dan y pennawd Gwneud Cais am Gyhoeddiadau).

O Fis Ionawr 2005 ymlaen

O fis Ionawr 2005 ymlaen rydym wedi bod yn ateb i geisiadau unigol am wybodaeth. Rhaid i unrhyw unigolyn sydd am weithredu’r hawl i fynediad i wybodaeth a ddelir gennym ysgrifennu atom, neu anfon e-bost, gan roi manylion o’r wybodaeth y ceisir amdani, os nad ydyw o fewn ein Cynllun. Yn amodol ar rai eithriadau, mae’n rhaid inni roi gwybod i’r unigolyn a ydym yn dal yr wybodaeth, ac os felly, ei darparu o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn y cais. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw wybodaeth a ddelir gennym, gan gynnwys gwybodaeth a ddaliwyd gan ein rhagflaenyddion. Mae’r cyrff hyn yn cynnwys Isadran Goruchwylio Banc Lloegr, Comisiwn y Cymdeithasau Adeiladau, Cyfarwyddiaeth Yswiriant Trysorlys ei Mawrhydi, y Sefydliad Rheoleiddio Rheoli Buddsoddiadau (IMRO), yr Awdurdod Gwarantau a Blaendrafodion (SFA), y Bwrdd Gwarantau a Buddsoddiadau (SIB) yr Awdurdod Buddsoddiadau Personol (PIA) a Swyddfa Ganolog y Gofrestrfa Cymdeithasau Cyfeillgar (RFS) a’r Comisiwn Cymdeithasau Cyfeillgar (FSC).

Back to top Yn ôl i’r brig