Cymraeg
Amdanom Ni
Beth yw'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gallu Ariannol?
Ni (yr FSA) sy'n arwain y strategaeth hon. Mae'n dwyn ynghyd bartïon â diddordeb o'r diwydiant, cyrff defnyddwyr, sefydliadau gwirfoddol, y llywodraeth a'r cyfryngau - sydd oll yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella gwybodaeth a dealltwriaeth y genedl o arian personol.
Rydym yn frwd am wella lefelau isel o allu ariannol ymysg poblogaeth y DU ac yn ceisio cyrraedd o leiaf 10 miliwn o bobl yn y pum mlynedd o 2006/7 – 2010/11.
Pam ein bod yn gwneud hynny?
- Gofynnir i bobl, yn fwy nag erioed o'r blaen, gymryd cyfrifoldeb am reoli eu materion ariannol eu hunain.
- Gall hyn fod yn frawychus ac yn ddryslyd i bobl, yn enwedig os byddant yn ei chael yn anodd rheoli dyled neu gyflawni ymrwymiadau eraill.
- Mae nifer a chymhlethdod dewisiadau wedi cynyddu'n sylweddol dros y 25 mlynedd diwethaf.
- Yn y cyfamser, mae sicrwydd y Wladwriaeth neu gyflogwyr yn cael ei dynnu'n ôl yn raddol.
Pam yr FSA?
Er mai'r llywodraeth sy'n bennaf cyfrifol am oedolion llythrennog a rhifog, mae gan yr FSA amcan statudol i hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r system ariannol. Mae cymaint o'r problemau yn y farchnad fanwerthu ar gyfer gwasanaethau ariannol yn deillio o lefel isel o allu ariannol y rheini y mae angen iddynt, yn gynyddol, wneud penderfyniadau ariannol.
Mae gan y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gallu Ariannol weledigaeth gyffredinol o ran cyflawni:
'Rydym yn rhannu gweledigaeth o ddinasyddion mwy hyddysg, addysgedig a mwy hyderus, sy'n gallu cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu materion ariannol eu hunain a chwarae rhan fwy gweithredol yn y farchnad ar gyfer gwasanaethau ariannol.'
(Building Financial Capability in the UK, FSA 2004)
Ein Gwaith Ymchwil
Defnyddwyr abl a hyderus
Mae gofyn i unigolion gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu penderfyniadau ariannol. Er hynny nid oes gan lawer y sgiliau a'r wybodaeth i wneud hynny, ac mae rhai grwpiau yn arbennig o ddiamddiffyn.
Dengys ein harolwg gallu ariannol 2006 Establishing a Baseline, hyd yn oed ar ôl ystyried incwm is a phrofiad cyfyngedig, fod pobl yn y grŵp oedran 18-40 yn llai abl yn ariannol na phobl hŷn. Er hynny, y grŵp hwn sy'n wynebu mwy o gyfrifoldebau ariannol unigol heddiw.
Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gallu Ariannol yn ceisio unioni hyn, gan gyfuno mesurau hirdymor i osod y sylfeini ar gyfer gwelliant cynaliadwy dros amser a mesurau tymor byrrach ar gyfer effaith fwy uniongyrchol. Bwriadwn hefyd ailgynnal yr arolwg bob 4-5 mlynedd. Bydd yr un nesaf yn 2010/11.
Dros amser, bydd gwella gallu ariannol pobl yn eu galluogi i ddylanwadu'n fwy yn y marchnadoedd manwerthu, gan greu marchnadoedd mwy effeithiol ac effeithlon a lleihau'r angen am ymyrraeth reoliadol.
Am ragor o wybodaeth am ein Harolwg Sylfaenol (Mawrth 2006) gweler:
- Levels of Financial Capability in the UK: Results of a baseline survey [PDF]
- Financial Capability baseline survey: methodological report [PDF]
- Financial Capability baseline survey: questionnaire [PDF]
Ein Gwaith
Mae ein rhaglen Delivering Change yn targedu: plant ysgol; oedolion ifanc Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET); myfyrwyr mewn prifysgolion a cholegau Addysg Bellach (AB), cyflogeion yn eu gweithle; a rhieni newydd. Rydym hefyd yn cyflwyno gwybodaeth syml drwy ein gwefan defnyddwyr Moneymadeclear, offer a chyhoeddiadau ar-lein, ac yn cyrraedd amrywiaeth eang o ddefnyddwyr drwy ein gwaith gyda sefydliadau gwirfoddol.
Cyfeiriad
Gallwch ysgrifennu atom yn:
Financial Capability Division
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS

