Mae cwmnïau y mae’r FSA yn eu dynodi’n gwmnïau bach yn cael y Ganolfan Gyswllt i Gwmnïau fel eu prif ddolen gyswllt, yn hytrach na goruchwyliwr penodol yr FSA.

Credwn fod y rhan fwyaf o gwmnïau bach unigol yn golygu risg isel i’r amcanion a osodir inni yn y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol. O ganlyniad, mae’r berthynas goruchwylio rhyngom a chwmnïau bach â chyffyrddiad mwy ysgafn. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, yn wahanol i’r cwmnïau mwy rydym yn eu rheoleiddio, nad ydynt yn cael ymweliadau rheolaidd gennym, ac fel arfer gofynnir iddynt anfon adroddiadau rheoleiddiol dim ond dwywaith y flwyddyn.

Fodd bynnag, credwn fod cwmnïau bach fel cyfangorff yn golygu risg i’n hamcanion statudol. Rydym wedi addasu ein hymagwedd goruchwylio ar sail risg er mwyn rheoleiddio dros 20,000 o gwmnïau bach. Rydym yn casglu gwybodaeth am gwmnïau bach o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys holiaduron electronig oddi wrth y cwmnïau eu hunain, a data gwerthu cynnyrch oddi wrth ddarparwyr cynnyrch. Rydym yn dadansoddi’r data hyn er mwyn canfod risgiau cyfunol, a lle bo angen rydym yn cynnal ymchwiliad, a adwaenir fel prosiect thematig. Ar ôl cwblhau’r gwaith thematig hwnnw, dwedwn wrth y cwmnïau sy’n gwerthu’r cynnyrch hwn, neu sy’n gweithredu yn y maes busnes hwnnw, beth rydym wedi’i ddarganfod. Rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth honno ar ein tudalennau we i gwmnïau bach. Caiff y tudalennau hyn eu rhannu yn ôl y maes busnes, sy’n amrywio o roi cyngor ariannol i werthu gwarant gydag yswiriant wrth gefn ynghyd â nwyddau a gwasanaethau.

Ein bwriad yw newid ymddygiad cwmnïau bach mewn ffordd sy’n gwella safonau ar draws y diwydiant. Trwy gydweithio, gall cwmnïau bach a’r FSA wella ffydd defnyddwyr a chynnal sector cynghori iach.

Sut i gysylltu â ni

Mae gennym ganolfan gyswllt neilltuedig er mwyn sicrhau bod gennych ddolen gyswllt uniongyrchol yn yr FSA ac i’ch helpu i ddeall ein gofynion rheoleiddiol.

Ffôn: 0845 606 9966 (gall cyfraddau galwadau amrywio)

Galwad o dramor: +44 20 7066 1000

Sicrhewch fod cyfeirnod chwe-digid eich cwmni (FRN xxxxxx) wrth law, os gwelwch yn dda.

Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener 9:00am i 5:00pm (wedi’u hymestyn i 8:00am i 6:00pm yn ystod oriau brig cydnabyddedig)

E-bost: fcc@fsa.gov.uk

Gwefan: www.fsa.gov.uk

Trwy’r post: Firm Contact Centre
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS

Ffacs: +44 (0)20 7066 0991