Croeso i Gofrestr yr FSA
Mae Cofrestr yr FSA yn gofnod cyhoeddus o gwmnïau, unigolion a chyrff eraill sy’n darparu gwasanaethau ariannol ac sydd o fewn ein hawdurdodaeth reoleiddiol fel y’i diffinnir yn y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (DGMA)
Daeth y DdGMA i rym ar 1 Rhagfyr 2001 – os bydd arnoch angen gwybodaeth reoleiddiol o’r cyfnod cyn y dyddiad hwn, a chithau’n aelod o’r cyhoedd, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr yr FSA ar 0845 606 1234 (gall cyfraddau galwadau amrywio), neu anfonwch e-bost at yr adran Gymorth i Ddefnyddwyr.
Rydym yn rhoi Cofrestr yr FSA arlein er mwyn galluogi i gwmnïau a defnyddwyr gynnal ymchwiliadau unswydd am gwmnïau ac unigolion sy’n awdurdodedig ar hyn o bryd ac yn y gorffennol. Ni fwriedir y Gofrestr ar gyfer defnydd parhaol gan bartïon unigol dros gyfnod estynedig.
