Canllaw ar wneud cais 'Hawl i Wybod' am wybodaeth, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Cyflwyniad
Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu i wneud cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, trwy gwblhau’r ffurflen cais ‘Hawl i Wybod’ isod. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw i’r Ddeddf.
Gosodir y gyfraith Rhyddid Gwybodaeth yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (DRhG), sydd ar gael trwy wefan OPSI. Ceir wybodaeth bellach a chyngor hefyd trwy wefan y Information Commissioner's Office sy’n rheoleiddio’r Ddeddf.
Dyletswydd yr FSA
Mae’n rhaid i’r FSA ateb dim ond i geisiadau sy’n rhoi enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a disgrifiad o’r wybodaeth y ceisir amdani (adran 8(1) DRhG).
Er bydd yr FSA yn ystyried pob cais mewn modd positif gyda’r bwriad o ddatgelu’r wybodaeth y ceisir amdani, mae’n bosib y bydd rhaid gweithredu’r eithriadau a gynhwysir y Rhan II; a.21-44 o’r Ddeddf.
Prosesu gan yr FSA
Bydd prosesu ceisiadau, o’r dyddiad y derbynnir y cais gan yr FSA, yn cymryd hyd at 20 diwrnod gwaith, fel y’i caniateir o dan y Ddeddf. Yr eithriad i hyn yw’r achosion canlynol:
- os dyroddwyd “Hysbysiad Ffioedd”;
- lle mae eithriad awdurdodedig yn berthnasol;
- lle mae’r Arglwydd Ganghellor yn estyn y cyfnod trwy reoliad, neu,
- lle mae angen manylion pellach er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth.
Taliadau
Ar ôl derbyn cais, gall yr FSA ddyroddi Hysbysiad Ffioedd. Bydd hwn yn ysgrifenedig, gan ddatgan y swm y gofynnir ichi ei dalu os dymunwch inni brosesu eich cais. O dan y Ddeddf bydd gennych dri mis i dalu, gan ddechrau ar y dydd pan ddyroddir yr Hysbysiad Ffioedd. Oni bai y caiff y ffi ei dalu, nid oes rhaid i’r FSA ateb i’r cais (a. 9(1)(2)).
Cwblhau’r ffurflen gais
Cyfeiriad Cyswllt
Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn cwblhau’r adran hon yn llawn; caiff yr ohebiaeth i gyd ei hanfon i’r cyfeiriad y byddwch yn ei roi yma.
Os dymunwch dderbyn yr wybodaeth mewn fformat arbennig, nodwch, os gwelwch yn dda, pa fformat sydd ei angen. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol i’w wneud.
Ein helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth
Er mwyn ein helpu gyda’n hymchwiliadau, dwedwch wrthym yn union beth rydych yn chwilio amdano, a rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn meddwl y bydd yn ein helpu i ddod o hyd iddo, megis:
- y cynnwys;
- pwy yn yr FSA sydd/gall fod yn delio â’r mater;
- pa adran fusnes o fewn yr FSA a all fod yn dal yr wybodaeth; ac
- unrhyw ddyddiadau perthnasol.
Mae hyn yn unol ag adran 1(3) o’r Ddeddf.
Cyflwyno
I wneud cais ‘Hawl i Wybod’ am wybodaeth nad yw’n cael ei chyhoeddi o fewn ein cynllun cyhoeddi, gwnewch y canlynol, os gwelwch yn dda:
- Cwblhewch ac anfonwch y ffurflen gais ar-lein Hawl i Wybod, neu
- Llawrlwytho copi i’w argraffu o’r ffurflen, ei chwblhau mewn llawysgrifen a’i hanfon atom yn y cyfeiriad isod.
- Ar ôl ichi ddarllen y canllaw hwn, os oes angen cyngor pellach arnoch ar sut i gwblhau’r ffurflen, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Mynediad i Wybodaeth.
Trwy’r post
Information Access Team
Financial Services Authority
25, The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS
Trwy e-bost
Dros y ffôn
Llinell gymorth DRhG yr FSA: 020 7066 8080
Cysylltu â Chi
Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais. Sylwch, os gwelwch yn dda, efallai y bydd raid inni gysylltu â chi i drafod eich cais; byddwn yn defnyddio’r manylion cysywllt y byddwch wedi eu rhoi oni bai y byddwch yn nodi fel arall.
Ni chaiff yr wybodaeth a roir ar y ffurflen hon ei defnyddio at unrhyw ddiben arall ond delio â’ch cais o dan ddarpariaethau’r Ddeddf. Caiff yr wybodaeth ei chadw yn unol â’n datganiadau Rheoli Cofnodion a Pholisi Diogelu Data’r FSA.
Dalier Sylw
Os bydd yr wybodaeth rydych yn ceisio amdani ynglŷn â chi, bydd rhaid delio â hyn o dan y ddarpariaeth “cais gwrthrych am wybodaeth” o’r Ddeddf Diogelu Data. Am wybodaeth ar sut i wneud cais i’r FSA, gwelwch y ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
