Trosolwg

  1. Mae gennych yr hawl i gwyno wrthym os caiff eich cais am wybodaeth ei wrthod neu ei wrthod yn rhannol, neu os rydych yn anfodlon ar unrhyw agwedd arall o ymateb yr FSA i gais “Hawl i Wybod” a wnaethpwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG).

  2. Mae gennych hefyd yr hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, ond cyn gwneud hyn, rhaid ichi fod wedi mynd trwy broses adolygu mewnol yr FSA.

  3. Bwriedir proses adolygu’r FSA i fod mor syml ag sy’n bosibl; lle mae’n bosibl bydd yn ceisio datrys unrhyw gwynion yn anffurfiol, trwy gysylltu â chi i drafod eich pryderon, e.e.

    • i esbonio’n fwy manwl y rhesymau am wrthod datgelu peth/y cyfan o’r wybodaeth a ofynnwyd amdani;

    • i egluro’r eithriadau sy’n sail i’r penderfyniad; neu

    • trwy roi rhagor o fanylion am y broses codi tâl, a sut y cafodd y ffi ei gyfrif.

  4. Lle na fydd yn bosibl datrys y cwyn yn anffurfiol, cewch eich hysbysu am yr hawl i adolygiad o’r penderfyniad, yn y lle cyntaf trwy broses adolygu mewnol yr FSA, ac wedyn, os byddwch yn anfodlon o hyd, gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  5. Os byddwch yn gofyn inni am adolygiad mewnol o’n penderfyniad, caiff ei drin fel cwyn ffurfiol, a bydd rhaid iddo fynd trwy’r broses adolygu mewnol. Byddwn yn cydnabod y cwyn a’ch hysbysu o’r dyddiad erbyn pryd y disgwylir ichi gael gwybod am y canlyniad.

  6. Mae un neu fwy o’r canlyniadau canlynol yn bosibl:

    • caiff y penderfyniad gwreiddiol ei gadarnhau; neu

    • caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi neu ei addasu; neu

    • mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft lle’r oedd camgyfrifiad o’r costau copïo neu bostio, efallai y bydd ad-daliad.

Amseru

  1. Os hoffech weithredu eich hawl i adolygiad mewnol, dylech gysylltu â ni o fewn tri mis o ddyddiad eich llythyr. Nid oes terfyn amser statudol am gynnal adolygiadau mewnol, a bydd yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos. Ond byddwn yn anelu at gwblhau pob achos cwyn, anffurfiol neu ffurfiol, o fewn 30 diwrnod gwaith.

Adolygiad mewnol

  1. Delir â cheisiadau am adolygiad mewnol gan Dîm Mynediad i Wybodaeth yr FSA, a fydd yn gyfrifol am adolygu’r penderfyniad ac/neu’r deunydd (pe bai hwnnw’n cael ei ryddhau neu beidio). Gall aelodau eraill o staff yr FSA gyfrannu cyn i benderfyniad gael ei wneud.

  2. Yn gyffredinol, Swyddog Diogelu Gwybodaeth (IPO) yr FSA, neu aelod uwch arall o’r staff nad oedd yn ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol, a fydd yn penderfynu’n derfynol.

  3. Fel rhan o’r broses byddwn yn ystyried y canlynol:

    • a yw’r DdRhG wedi cael ei gweithredu’n iawn, ac a yw’r wybodaeth a ofynnwyd amdani yn ddilys o fewn yr eithriad(au) a ddyfynnwyd;

    • a yw’r DdRhG wedi cael ei gweithredu’n iawn, yn arbennig a yw’r wybodaeth a ofynnwyd amdani yn ddilys o fewn yr eithriad(au) a ddyfynnwyd a (lle bo’n briodol) a yw peidio â chaniatáu ei datgelu er budd y cyhoedd;

    • a fu unrhyw ddatblygiadau ers yr ymateb gwreiddiol, gan gynnwys unrhyw bwyntiau a godwyd gennych pan wnaethoch gyflwyno eich cwyn, y dylent newid ein hymagwedd;

    • a yw’n bosibl darparu unrhyw wybodaeth bellach ichi;

    • a oes unrhyw beth i’w ddysgu i’n helpu i ddelio ag achosion yn y dyfodol.

  4. Os caiff y penderfyniad gwreiddiol ei gadarnhau, cewch eich hysbysu’n ysgrifenedig, a’ch hysbysu o’ch hawl i apelio ymhellach i’r Comisiynydd Gwybodaeth.

  5. Os caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi neu ei addasu, cewch eich hysbysu, a naill ai caiff yr wybodaeth y gofynnwyd amdani ei hanfon atoch, neu cewch eich hysbysu o’r dyddiad erbyn pryd y gellwch ddisgwyl derbyn yr wybodaeth. Os bydd darparu’r wybodaeth yn golygu rhaid ichi dalu am y costau, cewch eich hysbysu y darperir yr wybodaeth unwaith ein bod wedi derbyn y tâl.

  6. Os bydd canlyniad yr adolygiad yn golygu rhyddhau rhagor o’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond nid y cyfan, byddwn yn esbonio pam, gan gyfeirio at yr eithriad(au) perthnasol, a byddwn yn eich hysbysu o’ch hawl i apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rôl y Comisiynydd Gwybodaeth

  1. Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth gyfrifoldeb am oruchwyliaeth gyffredinol o’r DdRhG.

  2. Gellir gwneud cwynion am benderfyniadau a wneir o dan y DdRhG gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys yr FSA, i’r Comisiynydd Gwybodaeth (ar ôl adolygiad mewnol) i gael penderfyniad am a wnaeth yr FSA ddelio â’r cais yn unol â’r DdRhG, yn arbennig:

    • a gafodd eithriad a (lle bo’n briodol) budd y cyhoedd eu hystyried yn ddilys;

    • a oedd yr amser a gymerodd yr awdurdod cyhoeddus i gydymffurfio yn rhesymol;

    • a yw’r ohebiaeth yn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

  3. Gall y Comisiynydd benderfynu naill ai bod yr FSA wedi gweithredu’n unol â’r Ddeddf, neu fod angen gweithredu pellach er mwyn cydymffurfio. Caiff natur y gweithredu hwn (e.e. darparu gwybodaeth a gafodd ei hatal o’r blaen) ei osod mewn Hysbysiad o Benderfyniad neu Hysbysiad Gorfodi. Mae’r hysbysiadau hyn yn orfodol ar yr awdurdod cyhoeddus er y gellwch chi neu’r FSA apelio penderfyniad y Comisiynydd mewn Tribiwnlys Gwybodaeth ac wedi hynny – ynglŷn â phwynt cyfreithiol yn unig – i’r llysoedd.

  4. Os caiff achos ei apelio o flaen y Comisiynydd Gwybodaeth, mae’n bosibl y bydd y Comisiynydd yn gofyn am wybodaeth gan yr FSA er mwyn ei alluogi i ystyried yr apêl. Fel arfer yr wybodaeth hon fydd yr hyn y ceisiwyd amdani, h.y. deunydd a gafodd ei rhyddhau a deunydd na chafodd ei ddatgelu, yn ogystal â’r rhesymau dros ymatal rhag ei datgelu, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

  5. Os bydd y Comisiynydd Gwybodaeth yn cadarnhau cwyn ac yn penderfynu bod rhaid i’r FSA ddatgelu gwybodaeth, caiff Hysbysiad o Benderfyniad ei ddyroddi a’i gyflwyno i’r achwynydd ac i’r FSA. Bydd yr Hysbysiad yn rhoi manylion am yr wybodaeth sydd raid ei datgelu, a’r cyfnod sydd gan yr FSA i’w wneud.

  6. Os bydd yr FSA yn derbyn Hysbysiad o Benderfyniad sy’n dirymu gweithredoedd a wnaethom eisoes (e.e. i atal gwybodaeth, neu i godi tâl) gallwn naill ai cydymffurfio neu apelio i’r Tribiwnlys Gwybodaeth.

Back to top Yn ôl i’r brig