Trosolwg o’r FSA

Corff annibynnol anllywodraethol yw’r FSA, a sefydlwyd o dan y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (DGMA). Ein prif swyddogaeth yw rheoleiddio’r diwydiant gwasanaethau ariannol yn y DU.

O dan y DdGMA, mae gennym bedwar amcan statudol:

  • cynnal ffydd yn system ariannol y DU;

  • hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd yn y system ariannol;

  • sicrhau lefel briodol o ddiogelwch i ddefnyddwyr; a

  • helpu lleihau trosedd ariannol.

Cawn ein hariannu gan y diwydiant, nid gan y trethdalwyr.