Yn unol â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol (DGMA), ac yn unol â’n polisi ein hunain, rydym eisoes yn sefydliad tryloyw. Mae llawer o wybodaeth ar gael i’r cyhoedd gennym. Mae’r DdGMA yn gosod fframwaith atebolrwydd sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Adroddiad Blynyddol o’n gwaith i Ganghellor y Trysorlys, y mae hwnnw’n ei gyflwyno i’r Senedd;
  • Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol, lle caiff ein Hadroddiad Blynyddol ei drafod, a lle y gall aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau;
  • rhwymedigaeth i ymgynghori ynglŷn â pholisïau a rheolau arfaethedig. Rydym yn gwneud hyn trwy gyhoeddi Papurau Ymgynghori, Datganiadau Adborth, Datganiadau Polisi, Papurau Trafod, ayb. Mae ymatebion i’n Papurau Ymgynghori ar gael ar gais, oni bai bod yr atebydd wedi gofyn am gyfrinachedd; ac
  • fel rhan o’n trefniadau i ymgynghori â defnyddwyr ac ymarferwyr, rhwymedigaeth i sefydlu a chynnal Panel Defnyddwyr a Phanel Ymarferwyr. Mae’r Paneli hyn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu gwaith a’u trafodaethau gyda ni, ac rydym yn cyhoeddi ein hymateb i’w hargymhellion a’u barn.

Yn ogystal â’r gofynion statudol hyn, rydym yn cyhoeddi amrywiaeth eang o ddeunydd arall oherwydd ein polisi didwylledd a thryloywder. Mae enghreifftiau’n cynnwys: ein Cynllun a Chyllid Blynyddol; crynodeb o’n Hadroddiad Blynyddol; adroddiad Baird ar ein goruchwyliaeth o Equitable Life. Mae enghreifftiau pellach yn cynnwys adroddiadau ar ein rheoleiddio o sectorau penodol o’r diwydiant, er enghraifft yr adroddiadau Tiner ar ein diwygiad o reoleiddio yswiriant; ac ymchwil rydym yn ei gynnal i roi sail i’n datblygiadau polisi. Hefyd, rydym yn cymryd rhan mewn amrywiaeth helaeth o gynadleddau a seminarau cyhoeddus, ac mae areithiau gan uwch reolwyr yr FSA ar gael i’w gweld ar ein gwefan.

Mae’r DdGMA yn gosod cyfyngiadau – sy’n destun cosbau troseddol – ar ddatgelu gwybodaeth rydym yn ei derbyn wrth weithredu ein dyletswyddau. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) hefyd yn diogelu gwybodaeth o’r fath rhag ei datgelu. Mae rhesymau polisi cyhoeddus cadarn dros wneud hyn: mae’n rhaid i’r rheiny sy’n rhoi gwybodaeth i reolydd allu deimlo’n hyderus y caiff cyfrinachedd yr wybodaeth honno ei barchu. Ond mae’n golygu y bydd rhan helaeth o’n gwybodaeth yn eithriedig o dan y DdRhG.

Ein hymagwedd cyffredinol at weithredu’r DdRhG yw defnyddio’r cyfle hwn i ychwanegu at ein hatebolrwydd presennol trwy ddatgelu rhagor o wybodaeth. Rydym wedi adolygu’r mathau o wybodaeth rydym yn eu dal, ymgynghori â rheolyddion tramor sydd eisoes yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth debyg, ac rydym wedi cynnal arolwg ar y mathau o geisiadau rydym yn eu derbyn ar hyn o bryd. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar rai materion penodol. Mae enghreifftiau o’r wybodaeth newydd hon yn amrywio o wybodaeth gyfanredol o ganlyniadau ein gwaith mewn sectorau gwahanol o’r diwydiant, a rhagor o fanylion ar rai o’n prosesau rheoleiddio, i ragor o wybodaeth ar ein Bwrdd, ar gyfrifoldebau’r cadeirydd a’r prif weithredwr, ac ar bolisïau cyflogaeth. Rydym hefyd wedi cynnwys yr wybodaeth sydd eisoes ar ein gwefan, gan ailstrwythuro’r wybodaeth hon i’w wneud yn hawdd i’w defnyddio.

Lle bo angen rydym wedi nodi lle y gall dosbarth gynnwys gwybodaeth rydym yn ei hystyried yn eithriedig rhag ei datgelu. Rydym wedi cynnwys hyn i sicrhau na chaiff buddiannau ein rhanddeiliaid eu peryglu. Mae pob dosbarth yn gyfyngedig yn ôl y disgrifiadau yn y nodiadau.

Mae’r Cynllun hwn ar gael mewn ffurf copi caled ac ar ein gwefan.

Back to top Yn ôl i’r brig