Datganiad ffioedd
Ffioedd
Gosodir manylion y taliadau am ddarparu gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn y Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data (Terfynau a Ffioedd Priodol) 2004 (OS 2004 Rhif 3244), mewn grym o 1 Ionawr 2005 ymlaen. Mae copïau ar gael gan y Llyfrfa.
Ar sail y Rheoliadau, a chan ddefnyddio’r dewisiadau o fewn y rhain, mae’r FSA wedi penderfynu mabwysiadu’r polisi ffioedd canlynol.
Costau a thaliadau chwilio
Ni fyddwn yn codi tâl am ddod o hyd i’r wybodaeth yn sgil ceisiadau lle mae’r gost yn llai na £450.
Rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng yr hawl i gael gwybodaeth a’n hangen i weithredu ein dyletswyddau rheoleiddio craidd mewn modd diwastraff, effeithlon ac effeithiol. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus wrthod ateb i rai ceisiadau am wybodaeth, lle byddai’r gost o ddod o hyd i’r wybodaeth yn arbennig o ddrud. Felly, rydym wedi penderfynu peidio â chwrdd â cheisiadau pe buasai’n costio mwy na £450 i’w wneud.
Bydd y gost o £450 yn cael ei chyfrif ar sail £25 yr unigolyn yr awr am yr amser y mae’n cymryd
- i ganfod a ydym yn dal yr wybodaeth,
- i’w lleoli a’i hadalw, ac
- i godi’r wybodaeth o ddogfen(nau) sy’n ei chynnwys.
Ni fyddwn yn cyfrif unrhyw amser a dreulir ar y canlynol
- penderfynu a ddylid rhyddhau gwybodaeth; neu
- benderfynu ar eithriadau; neu
- ystyried y prawf budd y cyhoedd.
Fodd bynnag, lle bo’n briodol, byddwn yn ceisio eich helpu i gyfyngu eich cais, nes iddo fod o fewn y trothwy costau a osodir uchod.
Postio a chopïo
Ni fyddwn yn codi tâl lle mae costau postio, argraffu neu lungopïo o dan £10.
Lle mae dros £10, ni chodir y £10, ond byddwn yn gofyn am yr holl gostau amcangyfrifedig postio a chopïo dros ben hynny; byddwn yn eich hysbysu am y swm cyn inni gynhyrchu’r wybodaeth. Os byddwch yn penderfynu peidio â’i dalu, ni fyddwn yn rhyddhau’r wybodaeth.
Os penderfynwch yr hoffech gyfyngu ar y cais er mwyn, er enghraifft, lleihau’r gost o lungopïo, yna byddwn yn falch o drafod hynny gyda chi.
Cyfuno ceisiadau
Lle ceir dau neu fwy o geisiadau gan yr un unigolyn, neu gan bobl wahanol y mae’n ymddangos i ni eu bod yn cydweithredu neu’n gweithredu fel rhan o ymgyrch, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried y gost o ateb i unrhyw un o’r ceisiadau fel y gost o ateb i’r cyfan ar y cyd.
Er enghraifft, os derbynnir tri chais sy’n costio £400 yr un, gallwn eu trin fel cyfanswm o £1,200, a byddai gennym yr hawl i wrthod prosesu’r ceisiadau. Mewn achosion lle mae’n ymddangos bod sefyllfa o’r fath, byddwn yn esbonio ichi pam rydym o’r farn hon.
