Trefniadau Gweinyddol
Codi tâl am gyhoeddiadau
Ni chodir tâl am wybodaeth y gellir ei llawrlwytho’n uniongyrchol o’n gwefan. Mae graddfeydd taliadau amrywiol yn berthnasol i fersiynau copi caled o wybodaeth mewn rhai dosbarthiadau.
Cyhoeddiadau i ddefnyddwyr
Mae cyhoeddiadau’r FSA i ddefnyddwyr ar gael am ddim i ddefnyddwyr unigol, ac mewn niferoedd cyfyngedig i lyfrgelloedd, asiantaethau cynghori i ddefnyddwyr, a sefydliadau elusennol. Gall cwmnïau hefyd archebu copïau, ond codir tâl am gopïau y tu hwnt i nifer penodol.
Gellir archebu cyhoeddiadau i ddefnyddwyr yn uniongyrchol, gan ddefnyddio’r ffurflen archebu Cyhoeddiadau i Ddefnyddwyr arlein.
Ceir manylion llawn trwy’r ddolen isod:
Taliadau am gyhoeddiadau i ddefnyddwyr a ffurflenni archebu arlein
Mae cyhoeddiadau eraill yr FSA ar gael trwy:
- Cyhoeddiadau sydd ar gael trwy EC Group
Rydym yn darparu gwasanaeth argraffu-ar-alw trwy ein cyhoeddwyr swyddogol, EC Group. Codir tâl am bob gwasanaeth argraffu-ar-alw. Am wybodaeth ar beth sydd ar gael, neu i archebu dros y ffôn, ffoniwch linell Cyhoeddiadau’r FSA ar 0845 608 2372 (gall cyfraddau galwadau amrywio). - Cofrestr yr FSA (dosbarth E1)
Mae Cofrestr yr FSA yn gofnod cyhoeddus o gwmnïau, unigolion a chyrff eraill yn y maes gwasanaethau ariannol sydd o dan ein hawdurdodaeth reoleiddiol fel y’i diffinnir yn y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol. Gellwch ddefnyddio cyfleuster chwilio arlein Cofrestr yr FSA. Fel arall, mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael ar CD-ROM, am dâl. - Cyhoeddiadau eraill
Byddwn yn darparu copi papur am ddim o ddarn unigol o wybodaeth (lle dangosir y mae hyn ar gael o dan y dosbarthiadau hyn), ar gais. Cedwir yr hawl i godi tâl am fwy nag un copi papur o ddogfennau, ynghyd â chostau postio a phacio.
Gwneud cais am gyhoeddiadau
Gellir gofyn am ddeunydd o’n Cynllun dros y ffôn, trwy’r e-bost, trwy ffacs neu drwy lythyr. Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhyddhau fel mater o drefn. Nid oes cyfyngiad amser statudol ar gwrdd â cheisiadau o’r fath, er y byddwn yn ceisio darparu’r wybodaeth mewn da bryd.
Os ydych am ofyn am gopïau papur o unrhyw ddogfen o’n cynllun, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda:
Trwy’r e-bost: Publication.scheme@fsa.gov.uk
Trwy’r post: FOI Publications Requests, Financial Services Authority,
25 The North Colonnade, Canary Wharf, London E14 5HS
Dros y ffôn: 020 7066 4406
Trwy ffacs: 020 7066 4407
Hefyd, cysylltwch â Cheisiadau Cyhoeddi’r DdRhG os ydych am ddod i weld unrhyw ddogfennau sydd ar gael gan yr FSA o dan y Cynllun.
Fformatau eraill (i ddefnyddwyr)
Ar gais, byddwn yn darparu dogfennau o ddosbarthiadau B1 - B3 yn Braille, print bras neu ar dâp i ddefnyddwyr, yn rhad ac am ddim.
Cyfrifoldebau o fewn yr FSA am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
O 5 Ebrill 2004 ymlaen, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Uned Busnes Gwasanaethau Rheoliadol sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol o fewn yr FSA am weithredu’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae’r Tîm Mynediad i Wybodaeth yn gyfrifol am gynnal ac adolygu’r Cynllun.
Sylwadau a chwynion am y cynllun cyhoeddi
Trwy’r e-bost: Publication.scheme@fsa.gov.uk
Trwy’r post: FOI Publications Requests, Financial Services Authority,
25 The North Colonnade, Canary Wharf, London E14 5HS
Dros y ffôn: 020 7066 4406
Trwy ffacs: 020 7066 4407
Os nad yw’n bosibl datrys eich cwyn, gallwch ei yrru ymlaen i’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Manylion cyswllt y Comisiynydd:
Trwy’r post: Information Commissioner, Wycliffe House, Water Lane,
Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
Dros y ffôn: 01625 545 700
Adolygu
Bydd yr FSA yn adolygu’r Cynllun yn rheolaidd.
Datganiad hawlfraint
Oni ddywedir yn wahanol, rydym yn dal yr hawlfraint ac unrhyw freintiau eraill ar y deunydd i gyd yn y cynllun hwn.
Mae’r deunydd sydd â hawlfraint y Goron, yn y cynllun hwn ac ar ein gwefan, ynglŷn â hanes deddfwriaethol y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol, yn cael ei atgynhyrchu gyda chaniatâd Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi ar ran y Senedd.
Yn amodol ar hawlfraint y Goron, a’r amodau arbennig sy’n berthnasol i adran Tablau Cymharol gwefan yr FSA (cyfeiriwch hefyd at yr wybodaeth gyfreithiol isod, os gwelwch yn dda), cewch argraffu a llawrlwytho’r dogfennau hyn yn unol â’r amodau canlynol:
- mae’r dogfennau a’r graffigwaith cysylltiedig at ddefnydd personol, neu ddefnydd o fewn cwmni neu sefydliad unigol. Gellir defnyddio unrhyw gopïau o’r tudalennau hyn rydych yn eu cadw ar ddisg neu unrhyw gyfrwng storio arall, dim ond at ddibenion gweld personol, neu i’w gweld o fewn y cwmni neu’r sefydliad a wnaeth eu cadw neu eu storio;
- gellir defnyddio unrhyw ddetholiadau a argraffir dim ond at ddibenion gweld personol – neu i’w gweld o fewn y cwmni neu’r sefydliad a wnaeth eu hargraffu;
- ni chaniateir i dudalennau a gedwir ar ddisg neu sy’n cael eu storio mewn unrhyw ffordd, na detholiadau argraffedig, gael eu dosbarthu i drydydd bartïon nac eu gwerthu nac eu cylchredeg mewn unrhyw ffordd am elw;
- yr unig eithriad a ganiateir i’r rheolau cyffredinol uchod yw lle mae detholiadau (o ddim mwy nag ychydig o ddarpariaethau perthnasol) yn cael eu copïo a’u rhoi i drydydd partïon unigol mewn cysylltiad â chyngor neu weithgareddau tebyg;
- ni chaniateir i ddogfennau neu raffigwaith cysylltiedig gael eu haddasu mewn unrhyw ffordd;
- ni chaniateir i raffigwaith gael ei ddefnyddio ar wahân i’r testun cysylltiedig;
- rhaid i’n datganiad hawlfraint (h.y. © The Financial Services Authority) ymddangos ar bob copi;
- yn amodol ar hawlfraint y Goron a’r amodau arbennig sy’n berthnasol i adran Tablau Cymharol ein gwefan, ni chaniateir ichi atgynhyrchu neu storio unrhyw ran o’r wefan hon o fewn unrhyw wefan arall, neu ei gynnwys mewn unrhyw system neu wasanaeth adalw gwybodaeth electronig, cyhoeddus neu breifat, heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw; a
- chedwir pob hawl na ddatgenir yn hysbys yn yr amodau hyn.
Datganiad o’r polisi cadw
Dylid cadw cofnodion yr FSA er mwyn:
- cwrdd ag anghenion busnesau’r presennol a’r dyfodol;
- cwrdd â gofynion ymarfer gorau trefnau llywodraethol statudol, cyfreithiol a chorfforaethol;
- sicrhau bod ein trefnau rheoli cofnodion yn cael eu dogfennu, eu deall a’u gweithredu; a
- cyn belled ag y bo’n rhesymol, cwrdd ag anghenion y presennol a’r dyfodol rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Dylid cadw cofnodion yn unol ag amserlenni cadw’r FSA, a dylid eu gwaredu mewn modd awdurdodedig a systematig.
Mae amserlenni cadw’r FSA yn gosod y cyfnod cadw penodedig ar gyfer pob cyfres o gofnodion, ac maent yn seiliedig ar ofynion statudol, cyfreithiol a busnes.
