Dolenni defnyddiol
Rydym yn cydweithio’n agos gydag asiantaethau eraill ac adrannau llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldebau cysylltiedig, gan gynnwys:
-
HM Treasury, sy’n gyfrifol am y ddeddfwriaeth berthnasol (FSMA) a fframwaith gyffredinol reoleiddio;
-
Bank of England, y mae ei amcanion yn ôl Deddf Banc Lloegr 1998, yn cynnwys cynnal sefydlogrwydd prisiau ac, yn amodol ar hynny, cefnogi polisi economaidd y Llywodraeth. Rydym wedi cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Thrysorlys ei Mawrhydi a Banc Lloegr. Mae hwnnw’n esbonio sut y bydd y tri awdurdod yn cydweithio tuag at yr amcan cyffredin o sefydlogrwydd ariannol.
-
yr Department of Trade and Industry, sy’n gyfrifol am faterion y gyfraith cwmnïau a methdaliad, ac am y rhan fwyaf o ymchwiliadau ac erlyniadau o dan y Deddfau Cwmnïau;
-
yr Department for Work and Pensions, sy’n gyfrifol am bolisi cyhoeddus ynglŷn â phensiynau ac am yr Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol;
-
The Pensions Regulator (TPR), sy’n gyfrifol am reoleiddio cynlluniau pensiynau galwedigaethol;
-
y Office of Fair Trading, sy’n gyfrifol am gredyd defnyddwyr, diogelu defnyddwyr a materion cystadleuaeth;
-
y Serious Fraud Office, sy’n gyfrifol am ymchwilio ac erlyn ym materion twyll difrifol a chymhleth;
-
yr Serious Organised Crime Agency, sy’n gyfrifol am leihau’r niwed a achosir i bobl a chymunedau yn y DU gan droseddu cyfundrefnol difrifol;
-
Financial Ombudsman Service, y corff annibynnol sy’n delio â chwynion unigol yn erbyn cwmnïau rheoledig, pan nad yw’r achwynydd yn fodlon ar y ffordd y mae’r cwmni wedi delio â’r mater;
-
y Financial Services Compensation Scheme, y corff annibynnol sy’n delio â hawliadau iawndal gan ddefnyddwyr pan fydd y cwmni rheoledig dan sylw wedi mynd yn fethdalwr.
