Ynglŷn â’r FSA
Yr Financial Services Authority (FSA) yw’r prif reolydd gwasanaethau ariannol yn y DU. Ein hamcanion, fel y’u gosodir yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, yw:
- ffydd yn y farchnad: cynnal ffydd yn y system ariannol;
- ymwybyddiaeth y cyhoedd: hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o’r system ariannol;
- diogelu defnyddwyr: sicrhau’r lefel addas o ddiogelwch ar gyfer defnyddwyr; a
- lleihau’r nifer o droseddau ariannol: lleihau’r posibilrwydd o fusnesau gael eu defnyddio at ddibenion sy’n gysylltiedig â throsedd ariannol.
Rydym yn rheoleiddio tua 29,000 o gwmnïau yn y marchnadoedd cyfanwerthu a manwerthu, gan amrywio o fanciau buddsoddi byd-eang, i fusnesau bach iawn, a thua 165,000 o unigolion. Rydym yn gyfrifol am awdurdodi a goruchwylio a, lle bo angen, gweithredu yn erbyn cwmnïau ac unigolion sy’n methu â chwrdd â’r safonau y gofynnwn amdanynt.
Disgrifiwn ein gwaith yn ein Cynllun Busnes bob blwyddyn, a’r gwaith rydym wedi’i gyflawni yn ein Hadroddiad Blynyddol.
Rydym yn gorff anllywodraethol annibynnol, a ariannir yn hollol gan y cwmnïau rydym yn eu rheoleiddio. Mae’r Trysorlys yn penodi ein Bwrdd, sy’n cynnwys Cadeirydd, Prif Swyddog Gweithredol, tri Rheolwr-Gyfarwyddwr, a 10 cyfarwyddwr anweithredol (gan gynnwys prif aelod anweithredol, y Dirprwy Gadeirydd). Y Bwrdd sy’n gosod ein polisi cyffredinol; cyfrifoldeb y swyddogion gweithredol yw penderfyniadau bob-dydd a rheoli’r staff.
Mae’r FSA yn sefydliad agored a thryloyw, ac mae’n darparu gwybodaeth lawn i gwmnïau, defnyddwyr ac eraill ynglŷn â’i amcanion, ei gynlluniau, ei bolisïau a’i reolau, gan gynnwys trwy gyfrwng y wefan hon. Mae adran o’r wefan hon yn darparu gwybodaeth yn benodol ar gyfer defnyddwyr ar gynnyrch ariannol, rheoleiddio, a’u hawliau.
Sut i gysylltu â ni
Gellwch gysylltu â ni trwy’r post:
25 The North Colonnade,
Canary Wharf,
London E14 5HS
Gellwch hefyd ffonio ein Llinell Gymorth i Ddefnyddwyr: 0845 606 1234 neu, os ydych yn gwmni awdurdodedig, trwy ein Canolfan Gyswllt i Gwmnïau: 0845 606 9966. Sylwch, os gwelwch yn dda, y gall cyfraddau galwadau amrywio.
