Cwynion am yr FSA
Gall unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan y ffordd y mae’r FSA wedi gweithredu ei swyddogaethau (ac eithrio ei swyddogaethau deddfwriaethol) o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, neu wedi methu â’u gweithredu, gwyno am gamymddwyn honedig yr FSA trwy Gynllun Cwyno’r FSA.
Am fanylion ar sut i gwyno, gweler taflen yr FSA, Dwyn cwyn yn erbyn yr FSA.
Os ydych yn chwilio am wybodaeth am y ffordd orau i ddwyn cwyn yn erbyn Cwmni Rheoledig, gweler taflen yr FSA, Making a Complaint about Financial Services.
Mae nifer o ffyrdd i gysylltu â ni ynglŷn â’ch cwyn. Cewch wneud un o’r canlynol:
- cwblhau’r ffurflen arlein neu lawrlwytho ffurflen i’w hargraffu y gellwch ei hanfon atom yn y cyfeiriad isod;
- gofyn am y ffurflen trwy yrru e-bost at dîm cwynion yr FSA: complaints@fsa.gov.uk;
- gofyn am y ffurflen trwy ysgrifennu’n uniongyrchol at y tîm cwynion yn y cyfeiriad canlynol:
FSA Company Secretariat
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS
- ofyn am y ffurflen trwy ffonio aelod o dîm cwynion yr FSA ar 020 7066 9870.
Cewch hefyd gysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiynydd Cwynion. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd o’r farn y dylai’r FSA gynnal ei ymchwiliad ei hun yn gyntaf, cyn penderfynu a ddylai yntau gynnal ymchwiliad.
